Matthew 8:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a estennawdd ei law, ac ei cyhurddawdd ef, gan ddywedyt, Mynaf, glanhaer di: ac yn y van y ’ohanglwyf ef a ’lanhawyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf; glanhaer di: ac yn uniawn y glanhawyd ei wahanglwyf ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn y fan glanhawyd ei wahanglwyf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A'r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynaf, bydd lân. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.