Matthew 8:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r diavleit a ddeisyfesont arnaw, gan ddywedyt, A’s bwry ni allan, gad i ni vynet i’r genvaint voch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant Arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i’r genfaint moch. A dywedodd wrthynt, Ewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atolygai’r cythreuliaid iddo gan ddywedyd, “Os wyt am ein bwrw ni allan, anfon ni i’r genfaint foch.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i'r genfaint foch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma'r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i'r genfaint o foch acw os wyt ti'n mynd i'n bwrw ni allan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymbiliodd y cythreuliaid arno, "Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i'r genfaint foch.