Matthew 8:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ffoawdd y meichiait: a’ gwedy y dyvot hwy i’r dinas, menegy a wnaethant pop peth, a’ pha beth a ddarfesei ir ei oedd y diavleit ynthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r meichiaid a ffoisant, ac wedi myned ymaith i’r ddinas, mynegasant y cwbl, a hanes y rhai dieflig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ffodd y meichiaid; ac wedi mynd ymaith i’r ddinas, mynegasant bopeth, yn enwedig hanes y cythreuligion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i'r rhai dieflig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i'r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i'r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r porthwyr a ffoisant; ac wedi eu dyfod yn ol i'r Ddinas, hwy a fynegasant yr oll; a'r pethau a ddarfuasent i'r rhai a feddiannid gan gythreuliaid.