Matthew 8:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, yr oll ddinas a ddaeth allan, y gyvarvot a’r Iesu: a’ phan ei gwelsont, atolugy a wnaeehant iddaw, ymadel oei teruyneu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac, wele, yr holl ddinas a aeth allan i gyfarfod â’r Iesu; a phan Ei gwelsant, deisyfiasant Arno ymadael â’u cyffiniau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna’r holl ddinas yn mynd allan i gyfarfod â’r Iesu, a phan welsant ef erfyniasant arno ymadael o’u gororau hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma pawb yn dod allan o'r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw'n pwyso arno i adael eu hardal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod Iesu, ac wedi ei weld yn erfyn arno symud o'u gororau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, yr holl Ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu; a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.