Matthew 8:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Gwyl na ddywetych wrth nep, eithr dos, ac ymddagos ir Offeiriat, ac offryma y rhodd a orchymynawdd Moysen, er testoliaeth yddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel nad wrth neb y dywedi; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchymynodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yr Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, a dwg yr offrwm a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Iesu'n dweud wrtho, “Gwna'n siŵr dy fod ti'n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad, a chyflwyno'r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel na ddywedi wrth neb; eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma y rhodd a benododd Moses, er tystiolaeth iddynt.