Matthew 9:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, a’r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, nycha, Publicanot lawer a’ phechaturieit, a’ ddaethent ynavv, a eisteddesant i vwyta gyd a’r Iesu a’ ei ddiscipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu ac Efe yn lled-orwedd wrth y ford yn y tŷ, ac wele llawer o dreth-gymmerwŷr a phechaduriaid wedi dyfod, a gyd-ledorweddasant â’r Iesu a’i ddisgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd, ac ef ar bryd bwyd yn tŷ, dyna hefyd lawer o drethwyr a phechaduriaid yn dyfod ac yn cyd-eistedd â’r Iesu ac â’i ddisgyblion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛, i'r parti hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei du375?, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod a chydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele, Treth‐gasglwyr lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i Ddysgyblion.