Matthew 9:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, A all plant yr ystavell‐briodas gwynvan tra vo’r gwr priod y gyd ac wynt? An’d e ddawr dyddiae pan ddyger y gwr‐priawd o ddiarnynt, ac yno ydd vmprydiant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell-briodas alaru tra ynghyda hwynt y mae’r priod-fab? Ond daw’r dyddiau pan ddygir y priod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddi wrthynt y priodfab, ac yna yr ymprydiant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo'r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas alaru tra byddo y Priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau a ddeuant pan ddygir y Priodfab oddiarnynt, ac yna yr ymprydiant.