Matthew 9:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eb law hyny ny ddyd nep lain o vrethyn newydd mewn hen wisc: can ys hyn a ddylyei ei gyflawny, a dynn beth o y wrth y wisc, a rhwyg fa aa yn waeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid yw neb yn dodi darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen, canys cymmer ei gyflawniad oddiwrth y cochl, a rhwyg gwaeth a wneir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni ddyd neb glwt o frethyn crai ar hen ddilledyn; canys tyn y darn llanw oddi wrth y dilledyn, a gwaeth rhwyg a fydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r clwt o frethyn yn tynnu ar y dilledyn ac yn achosi rhwyg gwaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd neb yn gwno clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; oherwydd fe dyn y clwt wrth y dilledyn, ac fe 'r rhwyg yn waeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni ddyd neb lain o frethyn annhriniedig ar hen ddilledyn, canys yr hyn a leinw a dyn oddiwrth y dilledyn, a'r rhwyg a fydd waeth.