Matthew 9:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny ddodant ’win newydd mewn llestri hen: can ys velly y torrei’r llestri, ac y dineuhir, y gwin, ac y collir y llestri: an’d gwin newydd a ddodant mywn llestri newyð, ac velly y cedwir y ddau. Yr Euangel y xxiiij. gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid ydynt yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen: onite torrir y costrelau, a’r gwin a red allan, ac am y costrelau y derfydd; eithr dodant win newydd mewn costrelau newyddion, a’r ddau a gyd-gedwir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni roddant chwaith win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwygir y crwyn, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a ddifethir; eithr rhoddant win newydd mewn crwyn newydd, a’r naill a’r llall a gedwir.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dydy gwin sydd heb aeddfedu ddim yn cael ei dywallt i hen boteli crwyn. Wrth i'r gwin aeddfedu byddai'r crwyn yn byrstio ac yn difetha, a'r gwin yn cael ei golli. Na, rhaid tywallt y gwin i boteli crwyn newydd, a bydd y poteli a'r gwin yn cael ei gadw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd pobl chwaith yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwnnt, fe rwygir y crwyn, fe gollir y gwin a difethir y crwyn. Ond byddant yn tywallt gwin newydd i grwyn newydd, ac fe gedwir y ddau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni ddodant win newydd mewn hen win grwyn; os amgen, y crwyn a rwygir, a'r gwin a red allan, a'r crwyn a gollir; eithr gwin newydd a ddodant mewn gwin‐grwyn newyddion, a chedwir y ddau.