Matthew 9:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Tra oeddd ef yn ymadrodd wrthwynt, nycha,, y deuth ryw pennaeth, ac’ addolawdd iddaw, can ddywedyt, E vu varw veu merch yr awrhon, and dyre d a’ gesot dy law arnei, a’ byw vydd hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, wele, rhyw bennaeth a ddaeth ac a’i haddolodd Ef, gan ddywedyd, Fy merch sydd newydd farw: eithr tyred a gosod Dy law arni, a byw fydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yntau’n llefaru’r pethau hyn wrthynt, dyma ryw bennaeth yn dyfod ac yn ymgrymu iddo, gan ddywedyd, “Fy merch sydd newydd farw; eithr tyred a dod dy law arni, a hi fydd byw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o'r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o'i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd ef yn siarad fel hyn hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, "Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tra yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn wrthynt, wele, daeth rhyw Lywodraethwr ac a'i haddolodd ef, ac a ddywedodd, Bu farw fy merch yr awrhon; eithr tyred a gosod dy law arni, a hi a fydd byw.