Matthew 9:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’nycha, wy a dducesant ataw wr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely. A’r Iesu yn gweled y ffydd wy, a ddyvot wrth y claf o’r parlys, Y map, ymddiriet: maddeuwyt y ty dy pechatae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, dygasant Atto ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd ar wely; a chan weled o’r Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Bydd hyderus, fy mab, maddeuwyd dy bechodau di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna hwy’n dwyn ato un parlysedig yn gorwedd ar wely. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywedodd wrth y parlysedig, “Cod dy galon, fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi eu maddau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma hwy'n dod dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar wely. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Cod dy galon, fy mab; maddeuwyd dy bechodau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, hwy a ddygasant ato un parlysig, yn gorwedd ar wely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy a ddywedodd wrth y parlysig, Ymwrola, fab, maddeuir dy bechodau.