Matthew 9:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hi a ddiwede se i ynthei e hun, A’s gallaf gyhwrdd aei wisc ef yn vnic, i’m iacheer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedodd ynddi ei hun, Os cyffyrddaf yn unig â’i gochl, iach fyddaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys dywedai ynddi ei hun, “Os caf yn unig gyffwrdd â’i fantell, iach fyddaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, "Dim ond imi gyffwrdd 'i fantell, fe gaf fy iachu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.