Matthew 9:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Iesu ymchwelawdd, a chan y gweled hi, y dyvot, Ha verch, bydd gysyrus: dy ffydd ath iachaodd. A’r wreic a wnaethpwyt yn iach yn yr awr hono.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu wedi troi a’i gweled hi, a ddywedodd, Bydd hyderus, Fy merch: dy ffydd a’th iachaodd; ac iachawyd y wraig o’r awr honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r Iesu a droes a’i gweled hi, a dywedodd, “Cod dy galon, fy merch; dy ffydd a’th iachaodd.” Ac iachawyd y wraig o’r awr honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trodd Iesu a'i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, wraig annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A'r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, "Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iachu di." Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a drodd, ac a'i gwelodd hi, ac a ddywedodd, Ferch, ymgalonoga: y mae dy ffydd wedi dy iachau; a'r wraig a iachawyd o'r awr hono.