Matthew 9:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y dyvot wrthwynt, Ewch ymaith: can nad marw’r vorwyn, anid cyscu y mae hi. Ac wynt ei gwatworesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd, Ciliwch, canys ni bu farw y llangces, eithr cysgu y mae: a chwarddasant am Ei ben Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
meddai, “Ewch ymaith, canys ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae.” A gwatwarasant ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy'r ferch fach ddim wedi marw — cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd, "Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae." Dechreusant chwerthin am ei ben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
efe a ddywedodd, Ciliwch, canys ni fu farw y llances, ond cysgu y mae. A hwy a'i gwatwarasant ef.