Matthew 9:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan yrrwyt y tyrfa allan, ef aeth i mewn ac a ymavlawdd yn hi llaw, a’r vorwyn a gyvodes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan fwriasid y dyrfa allan, wedi myned i mewn yr ymaflodd Efe yn ei llaw hi, a chyfododd y llangces.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan yrrwyd y dyrfa allan, fe aeth i mewn a gafael yn ei llaw hi; a chododd yr eneth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llances a gyfododd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond dyma Iesu'n anfon y dyrfa allan o'r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i fewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a'r llances a gyfododd.