Matthew 9:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gair o hynn aeth tros yr oll tir hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth y sôn am hyn allan dros yr holl wlad honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y sôn am hyn allan drwy’r holl fro honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth yr hanes am hyn ar led drwy'r ardal honno i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hanes hwn a aeth dros yr holl wlad hono.