Matthew 9:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d gwedi yddwyn ymadaw, wy eu clodvawresont ef trwy’r oll dir hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond hwy, wedi myned allan, a daenasant y son am Dano yn yr holl wlad honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond aethant hwythau allan, a thaenu’r sôn amdano yn yr holl fro honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw'n dweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond aethant allan a thaenu'r hanes amdano yn yr holl ardal honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi iddynt ymado, hwy a daenasant ei glod drwy yr holl wlad hono.