Matthew 9:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedi bwrw’r cythraul o honavv y dyvot y mud an: yno y rhyveddawdd y dyrfa gan ddywedyt, Ny wel p wyt y cyffelip erioed yn Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan fwriasid y cythraul allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y torfeydd, gan ddywedyd, Erioed nid ymddangosodd dim fel hyn yn Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan fwriwyd y cythraul allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd, gan ddywedyd, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd y cythraul ei fwrw allan ohono, dyma'r dyn yn dechrau siarad. Roedd y dyrfa wedi ei syfrdanu, a phobl yn dweud, “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o'r blaen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r cythraul gael ei fwrw allan, llefarodd y mudan; a rhyfeddodd y tyrfaoedd gan ddweud, "Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan; a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni ymddangosodd y cyffelyb erioed yn Israel.