Matthew 9:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu aeth o y amgylch yr oll ddinasoeð a’ threfi, gan ei‐ dyscy yn ei Synagogae, ac yn precethy Euangel y deyrnas, ac yn iachay pop haint a phob clefyd ymplith y popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth yr Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi, gan ddysgu yn eu sunagogau, a chan bregethu efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac âi’r Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n teithio o gwmpas yr holl drefi a'r pentrefi yn dysgu'r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Iesu'n mynd o amgylch yr holl drefi a'r pentrefi, dan ddysgu yn eu synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachu pob afiechyd a phob llesgedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r pentrefi, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y Deyrnas, ac iachau pob clefyd a phob afiechyd.