Matthew 9:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd ef y dyrfa, ef a dosturiawdd wrthwynt, can ys ey bot gwedy i hylltrawy, a’ ei goyscary val defeit eb yddyn vugail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth weled y torfeydd, tosturiodd wrthynt am eu bod yn llesg a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth weled y tyrfaoedd bu ddrwg ganddo drostynt, am eu bod yn flin ac wedi ymollwng fel defaid heb ganddynt fugail.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd ef y tyrfaoedd tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd o'u herwydd, am eu bod wedi eu trallodi, a'u taflu ar wasgar, fel defaid heb fugail.