Matthew 9:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef y’w ddiscipulon, Diau vot y cynayaf yn vawr, ar gweithwyr yn anaml.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd Efe wrth Ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: attolygwch, gan hyny, i Arglwydd y cynhauaf, anfon allan weithwyr i’w gynhauaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai wrth ei ddisgyblion, "Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed efe wrth ei Ddysgyblion, Y cynauaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml.