Matthew 9:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac er mwyn ychwy wybot vot meddiant i Vab y dyn ar y ðaiar y vaðae pechatae, (yno y dyvot ef wrth y claf o’r parlys) Cyvot, cymer dy wely, a’ dos ith tuy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywedodd wrth y claf o’r parlys), Cyfod a chymmer i fynu dy wely di, a dos i’th dŷ.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau” — yna medd ef wrth y parlysedig, “Cyfod, cymer dy wely a dos adref.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear" yna meddai wrth y claf, "Cod, a chymer dy wely a dos adref."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddeu pechodau (yna y dywed efe wrth y parlysig), Cyfod, cymmer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.