Matthew 9:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly pan ei canvu ’r dyrva, rhyveddy a wnaethant, a gogoneddy Duw, yr hwn a roesei gyfryw awturtat i ddynion. Yr Euangel ar ddydd S. Matthevv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweled o’r torfeydd, ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roisai awdurdod o’r fath i ddynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y tyrfaoedd, ofni a wnaethant, a gogoneddu Duw, a roes y fath awdurdod i ddynion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y tyrfaoedd hyn daeth ofn arnynt a rhoesant ogoniant i Dduw, yr hwn a roddodd y fath awdurdod i ddynion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r torfeydd pan welsant a ofnasant, a gogoneddasant Dduw, yr hwn a roddasai y fath awdurdod i ddynion.