Micah 1:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr ARGLWYDD hyd at borth Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Maroth yn aflonydd wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd na'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi ei anfon, ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem.