Micah 1:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau, bobl Lachish! Chi wnaeth wrthryfela fel Israel ac arwain pobl Seion i bechu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.