Micah 1:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwrandewch, bobl oll; clyw dithau, y ddaear, ac sydd ynddi; a bydded yr ARGLWYDD DDUW yn dyst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwrandwch, chi bobl i gyd! Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd! Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn; mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn.