Micah 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i droi Samaria yn bentwr o gerrig mewn cae agored — bydd yn lle i blannu gwinllannoedd! Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn a gadael dim ond sylfeini'n y golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini.