Micah 2:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob. Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel at ei gilydd fel defaid mewn corlan. Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob, a chynullaf ynghyd weddill Israel; gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra, fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.