Micah 2:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn y dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma. Fydd dim modd i chi ddianc! Dim mwy o swancio i chi! — mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg na all eich gwarrau ei osgoi; ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth, oherwydd bydd yn amser drwg.