Micah 3:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny o'ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly chi sydd ar fai! Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, o'ch achos chwi bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.