Micah 3:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y llefant ar yr ARGLWYDD, ac nis etyb hwynt; efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help, ond fydd e ddim yn ateb. Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD, ond ni fydd yn eu hateb; bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw, am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus."