Micah 3:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr ARGLWYDD, ac o farn a nerth, i ddangos ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD ac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder. Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel, ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grym ac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth, i gyhoeddi ei drosedd i Jacob, a'i bechod i Israel.