Micah 4:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir; yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwingwch a gwaeddwch, bobl Seion, fel gwraig mewn poen wrth gael babi! Bydd rhaid i chi adael y ddinas a gwersylla yng nghefn gwlad, ar eich ffordd i Babilon. Ond yno bydd yr ARGLWYDD yn eich achub, a'ch gollwng yn rhydd o afael y gelyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwinga a gwaedda, ferch Seion, fel gwraig yn esgor, oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas ac yn byw yn y maes agored; byddi'n mynd i Fabilon. Yno fe'th waredir; yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub o law d'elynion."