Micah 4:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r ARGLWYDD eu helw hwynt, a'u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tyrd i ddyrnu, ferch Seion! Dw i'n mynd i roi cyrn o haearn a carnau o bres i ti; a byddi'n sathru llawer o wledydd. Byddi'n rhoi'r ysbail i gyd i'r ARGLWYDD, ac yn cyflwyno eu cyfoeth i Feistr y ddaear gyfan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cod i ddyrnu, ferch Seion, oherwydd gwnaf dy gorn o haearn a'th garnau o bres, ac fe fethri bobloedd lawer; yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw, a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear."