Micah 4:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a'u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach;