Micah 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi'n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwnaf weddill o'r cloff, a chenedl gref o'r gwasgaredig, a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion yn awr a hyd byth.