Micah 5:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti'n un o'r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel — Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl i'r dechrau yn y gorffennol pell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ti, Bethlehem Effrata, sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a'i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt.