Micah 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Jacob sydd ar ôl yn byw yn y gwledydd, ar wasgar yng nghanol y bobloedd. Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid — yn rhydd i ladd a rhwygo heb neb i'w stopio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd, ac yng nghanol pobloedd lawer, fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig, fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid, sydd, wrth fynd heibio, yn mathru ac yn malurio, heb neb i waredu.