Micah 6:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n cadw deddfau drwg y brenin Omri, ac efelychu arferion drwg y brenin Ahab! — a dilyn eu polisïau pwdr. Felly bydda i'n eich dinistrio chi, a bydd pobl yn eich gwawdio ac yn gwneud sbort am eich pen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cedwaist ddeddfau Omri, a holl weithredoedd tu375? Ahab, a dilynaist eu cynghorion, er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith a'th drigolion yn gyff gwawd; a dygwch ddirmyg y bobl."