Micah 7:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i'w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i mor ddigalon! Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwyth ar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu. Does dim un swp o rawnwin ar ôl, na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf, ac fel lloffion cynhaeaf gwin; nid oes grawnwin i'w bwyta, na'r ffigys cynnar a flysiaf.