Micah 7:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'm gelynes a gaiff weled, a chywilydd a'i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw'n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe wl fy ngelyn a chywilyddio yr un a ddywedodd wrthyf, "Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?" Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno, pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.