Nahum 1:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr ARGLWYDD sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar ac yn gryf — ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb. Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm, ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth, ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb. Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl, a llwch ei draed yw'r cymylau.