Nahum 2:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Distryw, difrod, a dinistr! Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu, lwynau gwan, wynebau gwelw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi, pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian, y llwynau'n crynu, ac wyneb pawb yn gwelwi!