Nahum 2:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr; bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr. Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir, a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Llosgaf dy ffau mewn mwg, ac ysa'r cleddyf dy genawon; torraf ymaith dy ysbail o'r tir, ac ni chlywir mwyach sn am dy weithredoedd."