Nahum 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd, ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr. Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân, ac yn gwibio fel mellt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd, a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored; fflachiant fel ffaglau, gwibiant fel mellt.