Nahum 3:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae! Cryfha dy gaerau! Cymer fwd a sathra'r clai, a gwneud brics yn y mowld!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tyn ddu373?r ar gyfer gwarchae, cryfha dy amddiffynfeydd; dos at y clai, sathra'r pridd, moldia briddfeini.