Nahum 3:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim gwella ar dy glwyf — mae dy anaf yn farwol. Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat yn dathlu a curo dwylo. Oes rhywun wnaeth ddianc rhag dy greulondeb diddiwedd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni ellir lliniaru dy glwyf; y mae dy archoll yn ddwfn. Bydd pob un a glyw'r newydd amdanat yn curo'i ddwylo o'th blegid. A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?