Nahum 3:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi i'th erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Bydda i'n dy gywilyddio di — yn codi dy sgert dros dy wyneb; bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Codaf odre dy wisg at dy wyneb, a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd, a'th warth i'r teyrnasoedd.