Nehemiah 10:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein DUW ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglu375?n chario coed yr offrwm i du375? ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.