Nehemiah 10:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys meibion Israel a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a'r olew, i'r ystafelloedd, lle y mae llestri'r cysegr, a'r offeiriaid sydd yn gweini, a'r porthorion, a'r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros. Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fe ddaw'r Israeliaid a'r Lefiaid 'r offrwm o u375?d a gwin ac olew newydd i'r ystordai, lle mae llestri'r cysegr ac offer yr offeiriaid sy'n gweini, a'r porthorion a'r cantorion. Ni fyddwn yn esgeuluso tu375? ein Duw."